Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad blynyddol, gŵyl, pride parade |
---|---|
Rhanbarth | Abertawe |
Gwefan | https://www.swanseapride.co.uk/ |
Gŵyl balchder lesbiaid a hoywon ydy Balchder Abertawe a gynhelir yn ninas Abertawe, De Cymru. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf ar Gae Lacrosse, ym Mharc Singleton ar y 28ain o Fehefin, 2009. Mynychodd dros 3,000 o bobl safle'r ŵyl,[1] lle gwelwyd cantorion a pherfformwyr drag yn difyrru'r dorf. Ymysg y perfformwyr, roedd y band Scooch a'r gantores Kelly Llorena. Defnyddiwyd y diwrnod hefyd i godi arian ac ymwybyddiaeth i'r elusen HIV ac AIDS, Terrence Higgins Trust.
Cynhaliwyd gŵyl 2010 ar 26 Mehefin[2] a mynychodd ychydig dros 3,000 o bobl y digwyddiad. Ymhlith y cantorion a ymddangosodd ar lwyfan oedd Anthony Costa o'r grŵp pop Blue a'r gantores Rozalla. Cafwyd perfformiad hefyd o ganeuon o'r sioe gerdd "Rent".
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search